Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2016
Amser: 09.20 -
12.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3783
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Mari Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Yr Athro Marcus Longley, Prifysgol De Cymru David Robinson, Community Links Anita Charlesworth, Y Sefydliad Iechyd Yr Athro Ceri Phillips, Prifysgol Abertawe |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mari Thomas, Swyddog Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, y Cynghorydd Huw David (Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Cynghorydd Anthony Hunt (Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen), Dirprwy Lefarydd CLlLC ar gyfer Cyllid ac Adnoddau.
3.2 Cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar ei asesiad o ddigonolrwydd y gyllideb ar gyfer 2017-18 i ymdrin â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Robinson, OBE, Uwch Gynghorydd Community Links, yr Athro Ceri Phillip, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe, yr Athro Marcus Longley, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac Athro Polisi Iechyd Cymhwysol, Prifysgol De Cymru ac Anita Charlesworth, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Economeg, y Sefydliad Iechyd.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â mân newidiadau.
8.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr ar weithredu Deddf Cymru 2014 yn y flwyddyn newydd.
9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar gyngor arbenigol ar gyfer y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a phenderfynodd peidio â phenodi cynghorydd arbenigol.